Y Brifysgol Agored yng Nghymru

1.        Sefydlwyd y Brifysgol Agored yn 1969 a chofrestrodd y myfyrwyr cyntaf yn 1971. Mae'n arweinydd byd-eang o ran cynnig cyfleoedd dysgu o bell hyblyg ac arloesol ar lefel addysg uwch. Mae'n agored i bobl, lleoedd, dulliau a syniadau. Mae'n hyrwyddo cyfleoedd addysgol a chyfiawnder cymdeithasol drwy gynnig addysg brifysgol o safon uchel i bawb sy'n dymuno cyflawni eu huchelgais a gwireddu eu potensial.

2.        Mae dros 7,000 o fyfyrwyr dros Gymru gyfan yn astudio gyda'r Brifysgol Agored ar hyn o bryd, ac maent wedi'u cofrestru ar oddeutu 10,000 o fodiwlau. Mae myfyrwyr y Brifysgol Agored ym mhob un o etholaethau Cynulliad Cymru a ni yw darparwr addysg uwch israddedig rhan-amser mwyaf blaenllaw'r wlad.  Mae bron dri o bob pedwar o fyfyrwyr Y Brifysgol Agored mewn cyflogaeth tra eu bod yn astudio a chyda pholisi derbyniadau agored, nid oes angen unrhyw gymwysterau i astudio ar lefel gradd.  Mae dros draean o'n myfyrwyr israddedig yng Nghymru yn dod atom heb gymwysterau mynediad safonol i brifysgol.

3.        Fel arweinydd byd-eang ym maes technoleg addysg, mae ein portffolio 'cynnwys agored' eang yn cynnwys unedau astudio am ddim ar y llwyfan dysgu am ddim OpenLearn (gan gynnwys llawer o ddeunyddiau sy'n gysylltiedig â Chymru a'n llwyfan Cymraeg OpenLearn Cymru) a chynnwys sylweddol ar YouTube ac ar iTunesU lle mae ein heitemau wedi cael eu lawrlwytho dros 70 miliwn o weithiau.

4.        Y Brifysgol Agored yw'r unig sefydliad addysg uwch sy'n gweithredu ym mhob un o bedair gwlad y DU ac sy'n cael arian bob un o'r pedair llywodraeth.  Mae strwythur unigryw'r Brifysgol Agored yn ein galluogi i ymateb i flaenoriaethau'r llywodraeth, a chael ein dwyn i gyfrif yn briodol, ym mhob gwlad a sicrhau y gall graddfa a chyrhaeddiad byd-eang gweithgarwch y Brifysgol Agored gael eu darparu er budd myfyrwyr ym mhob un o wledydd y DU. O ganlyniad i'n presenoldeb ledled y DU rydym mewn sefyllfa unigryw o ran y cyfleoedd a'r heriau sy'n gysylltiedig â'r polisïau gwahanol a geir ledled y DU. Mae'r profiad a'n hymrwymiad parhaus i ddarparu addysg rhan-amser o ansawdd uchel ledled y DU yn llywio ein hymateb i'r ymchwiliad hwn.

Maes un – Materion Cyfansoddiadol

5.        Mae Addysg Uwch yn faes polisi datganoledig ac eithrio’r Cynghorau Ymchwil. Fodd bynnag, mae cydberthnasau cymhleth a phwysig rhwng meysydd datganoledig a meysydd heb eu datganoli sy'n effeithio'n uniongyrchol ar brifysgolion yng Nghymru. Mae'r rhain yn cynnwys yr incwm a gânt o ffynonellau ac eithrio'r cyngor cyllido a'r amgylchedd cystadleuol ar gyfer recriwtio myfyrwyr ac arian ar gyfer gwaith ymchwil. Yn achos y Brifysgol Agored, er bod ein myfyrwyr yn astudio drwy ddysgu o bell ac y gallant wneud hynny mewn unrhyw un o bedair gwlad y DU mae'r polisïau gwahanol ar gyfer AU ym mhob gwlad a'r cyfundrefnau ariannu cysylltiedig yn golygu bod lefelau ffioedd a phecynnau cymorth i fyfyrwyr yn wahanol ym mhob un o wledydd y DU. Dylai hyn gael ei ystyried yn un o ganlyniadau cadarnhaol datganoli yn hytrach na phroblem, ond mae'n gofyn am gydgysylltu, cydweithredu a chyfathrebu ar draws llywodraethau a rhyngddynt.

6.        Mewn ymateb i gwestiynau penodol a ofynnwyd gan y Pwyllgor am faterion cyfansoddiadol hoffem ddatgan ein cefnogaeth i ymateb Prifysgolion Cymru i'r ymchwiliad hwn. Mae ymateb Prifysgolion Cymru yn nodi sawl enghraifft o feysydd sy'n destun pryder sy'n ymwneud â deddfwriaeth yn y sector AU ac rydym yn cytuno â'r pryderon hynny. Mae hyn yn cynnwys gallu Cynulliad Cenedlaethol Cymru i graffu ar ddeddfwriaeth Seneddol sy'n ymwneud ag AU yng Nghymru.

7.        Er enghraifft, yn ddiweddar bu'r Brifysgol Agored yn gweithio gyda'r Swyddfa Gymreig ac aelodau o Dŷ'r Arglwyddi i ddiwygio Bil Cymru er mwyn nodi statws y Brifysgol Agored fel sefydliad Cymreig yn gliriach yn y ddeddfwriaeth. Gan fod cylch gwaith y Brifysgol Agored yn cwmpasu'r DU gyfan nid yw hyn yn hawdd ond rydym yn awyddus i sicrhau y byddem yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth ynglŷn ag AU yng Nghymru gan ein bod yn rhan bwysig o'r sector AU yng Nghymru gan gydnabod ar yr un pryd sefyllfa unigryw'r Brifysgol Agored fel sefydliad sy'n cwmpasu'r DU gyfan. Roedd y materion hyn yn gofyn am gydberthnasau rhynglywodraethol effeithiol rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a'r Swyddfa Gymreig. Nid yw'n glir bod y mater hwn yn rhan o unrhyw ystyriaeth wreiddiol a roddwyd i'r Bil drafft nes iddo gael ei nodi gan Brifysgolion Cymru.

8.        Rydym yn cefnogi'r argymhelliad yn ail adroddiad Comisiwn Silk mewn perthynas ag addysg uwch, sef:

“Yng ngoleuni’r cydberthnasau clos a chymhleth yr ydym wedi’u nodi a’r posibilrwydd y gwnaiff newidiadau i bolisïau yn Lloegr ddylanwadu’n gryf ar Gymru, cynigiwn y dylid sefydlu fforwm rhynglywodraethol ffurfiol i sicrhau cyd-ddealltwriaeth ynglŷn â materion polisi ym maes Addysg Uwch, o fewn fframwaith Pwyllgor rhynglywodraethol Cymru. Yn ogystal â chyflawni rolau eraill, byddai’r fforwm hwn yn darparu gwybodaeth yn fuan am newidiadau a gynigid a byddai’n hybu rhagoriaeth a’r gallu i gystadlu’n rhyngwladol.”[1]

 

Yn ein barn ni, mae'r argymhelliad hwn yn haeddu cael ei weithredu o hyd a gall fod yn rhywbeth y gallai'r Pwyllgor ei ystyried fel rhan o'i ymchwiliad.

Maes dau – Materion Polisi

9.        Mae gwahaniaethau rhwng polisïau yn un o ganlyniadau naturiol datganoli ac mae'r Brifysgol Agored wedi ceisio ymateb yn effeithiol i'r cyfle i weithredu ym mhedair gwlad wahanol y DU. O ganlyniad, rydym yn monitro polisïau'r pedair llywodraeth yn barhaus ac yn ystyried lle mae meysydd lle y ceir gwahaniaethau y mae angen i ni ymateb iddynt a lle y ceir synergeddau. Mae'r Brifysgol Agored yng Nghymru yn ymateb i'r cyfeiriad polisi a bennir gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ond rydym hefyd yn ymwybodol o ddatblygiadau mewn mannau eraill sy'n effeithio ar ein gwaith yng Nghymru. Mae'r gallu i asesu, deall ac ystyried canlyniadau'r datblygiadau hyn cyn gynted â phosibl yn bwysig i ni wrth i ni lunio ein hymateb ac unrhyw wybodaeth y mae angen i ni ei throsglwyddo wedyn i'n myfyrwyr a'n sefydliadau partner.

10.     Mae angen prawfesur polisïau yn effeithiol o safbwynt pedair gwlad y DU drwy eu cyhoeddi a'u rhoi ar waith ac mae cyfathrebu rhwng llywodraethau yn allweddol i hyn. Ni ddylid gwneud cyhoeddiadau sy'n effeithio ar feysydd datganoledig heb gynnal trafodaethau â'r gweinyddiaethau perthnasol ymlaen llaw ac ystyried union gwmpas unrhyw benderfyniad polisi yn llawn. Mae enghreifftiau diweddar megis yr Ardoll Prentisiaethau a strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU yn feysydd lle y byddai gwell cydgysylltu a thrafod rhynglywodraethol cyn i bolisi gael ei gyhoeddi fod wedi sicrhau bod y polisi yn adlewyrchu'r setliad datganoli yn well ac y byddai wedi bod yn haws i'r rhai â buddiant yn y broses o'i roi ar waith fod wedi deall y goblygiadau. Yn yr un modd, byddai cyhoeddiadau Llywodraeth y DU ar feysydd megis y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu yn bendant wedi cael budd o fwy o weithgarwch cydgysylltu rhynglywodraethol.

11.     Agwedd arall ar y gwahaniaethau a geir rhwng polisïau yn y sector addysg uwch yw gallu cyrff yn y sector megis y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i ymateb i wahanol flaenoriaethau o ran polisi ac addasu eu systemau yn unol â hynny. Mae adroddiad terfynol yr Adolygiad Annibynnol o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru (‘Adolygiad Diamond’) yn nodi bod pryderon sylweddol yn hyn o beth. Dywed:

Mae’n bosibl, er gwaethaf y trafodaethau adeiladol sydd bellach ar waith rhwng yr SLC a Llywodraeth Cymru, y bydd y gwahaniaethau cynyddol rhwng blaenoriaethau polisi pedair llywodraeth y DU yn parhau i roi pwysau ar allu’r SLC.[2]

Aiff yr adroddiad ymlaen i ddyfynnu Pwyllgor Tŷ'r Arglwyddi ar y Cyfansoddiad sy'n cynnwys yr argymhelliad canlynol:

…[the UK Government] should be engaging with the devolved administrations across the whole breadth of government policy: not interfering, but co-operating and collaborating where possible and managing cross-border or UK-wide impacts that may result from differing policy and service delivery choices.[3]

12.     Felly, mae adolygiad Diamond yn argymell:

-     Y dylai Cydbwyllgor Gweinidogion y DU, ar y lefelau uchaf, ystyried cydgysylltu polisi cyllid myfyrwyr rhwng gweinyddiaethau'r DU yn well, heb leihau effaith penderfyniadau datganoledig. Croesawn barodrwydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i fynd ati gyda Llywodraeth Cymru i edrych am opsiynau i weithredu argymhellion yr adroddiad hwn yn ddi-oed.

-     Yn dibynnu ar ganlyniad y gwaith ar y cyd hwnnw, mae’r Panel yn argymell bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i gwmpasu system newydd o weinyddu benthyciadau i fyfyrwyr yng Nghymru.[4]

Rydym yn cefnogi'r argymhellion hyn yn gryf ac yn gobeithio y byddant o gymorth i'r Pwyllgor wrth iddynt ystyried materion rhynglywodraethol.

13.     Byddem hefyd yn cyfeirio'r Pwyllgor unwaith eto at argymhelliad y Comisiwn Silk mewn perthynas â “fforwm rhynglywodraethol ffurfiol i sicrhau cyd-ddealltwriaeth ynglŷn â materion”[5] a allai fod o ryw gymorth i fynd i'r afael â'r materion hyn.

14.     Byddai'r Brifysgol Agored yn fwy na pharod i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach i'r pwyllgor yn ôl yr angen gan ddefnyddio'r profiadau

17 Chwefror 2017



[1]Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru: Grymuso a Chyfrifoldeb: Pwerau Deddfwriaethol i Gryfhau Cymru, tud.143. Ar gael yn: http://webarchive.nationalarchives.gov.uk/20140410093206/http:/commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/files/2014/03/Grymuso-a-Chyfrifoldeb-Pwerau-Deddfwriaethol-i-Gryfhau-Cymru.pdf  

[2] Adroddiad Terfynol, Adolygiad Annibynnol o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru tud.65 ar gael yn http://gov.wales/docs/dcells/publications/160927-he-review-final-report-cy.pdf  

[3] The Union and Devolution, Pwyllgor Dethol Tŷ'r Arglwyddi ar y Cyfansoddiad (Mai 2016), para. 305: www.publications.parliament.uk/pa/cm201516/cmselect/cmchilsch/149/149i.pdf.  

[4] Adroddiad Terfynol, Adolygiad Annibynnol o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru ar gael yn http://gov.wales/docs/dcells/publications/160927-he-review-final-report-cy.pdf  

[5] Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru: Grymuso a Chyfrifoldeb: Pwerau Deddfwriaethol i Gryfhau Cymru, tud.143. Ar gael yn: http://webarchive.nationalarchives.gov.uk/20140410093206/http:/commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/files/2014/03/Grymuso-a-Chyfrifoldeb-Pwerau-Deddfwriaethol-i-Gryfhau-Cymru.pdf